Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Rywioldeb Plant, Rhywioli a Chydraddoldeb.

 

Dyddiad:                              10 Chwefror 2015

Lleoliad:                              Y Senedd. Ystafell Friffio’r Cyfryngau.

 

Yn bresennol: Jocelyn Davies AC (Cadeirydd).

Ruth Mullineux (NSPCC), Emma Renold (Prifysgol Caerdydd), Sangeet Bullah (Wise Kids), disgyblion o Ysgol Uwchradd Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru.

Rhayna Pritchard (Staff Cymorth i Jocelyn Davies AC), Angharad Lewis (Swyddog Cyfathrebu i Jocelyn Davies AC).

Tina Reece (Cymorth i Fenywod Cymru), Natalie Brimble (Tros Gynnal Plant), Sara Reid ('Sdim Curo Plant Cymru), Menna Thomas (Barnardo's), Hywel William (AIM Group (UK) Ltd), Andy Wood (Llywodraeth Cymru), Christina Parker (Cymorth i Fenywod Cymru), Rebecca Griffiths (Comisiynydd Plant), Siriol Burford (Ymgynghorydd Lles Addysgol), Andrew Buttle (Ysgol Uwchradd Teilo Sant Yr Eglwys yng Nghymru), Vicky Edwards (Prifysgol Caerdydd), Carlos Velasco (Prifysgol Caerdydd), Joanna Wilkinson (Prifysgol Caerdydd).

Ymddiheuriadau

Leanne Wood AC, Janet Finch-Saunders AC, Phil Walker (The Survivors Trust), Katrina Rohman (Foster Care Co-operative), Johanna Robinson (The Survivors Trust).

 

1              Croeso

                Croeso gan Jocelyn Davies AC (Cadeirydd).

2              Ruth Mullineux - Diogelu Plant Ar-lein ac ymgyrch Share Aware yr NSPCC

                http://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/share-aware/?utm_source=utm_internalcomms&utm_medium=utm_emailsig&utm_content=utm_emailsig1&utm_campaign=ShareAware2014

3              Trafodaeth fer ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd.

                Siriol Burford - Mae pobl ifanc yn teimlo y dylid dysgu am ddiogelwch ar y rhyngrwyd mewn ysgolion; dylai diogelwch ar y rhyngrwyd fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm. Mae rhieni eisiau mwy o wybodaeth am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Mae 95% o ddisgyblion yn mynd â ffonau symudol i'r ysgol (Super Survey).

 

                Andrew Battle - Mae anfon negeseuon testun rhywiol yn broblem i ysgolion. Nid yw gwahardd ffonau o'r ysgol wedi gweithio, mae angen i ni fanteisio ar y dechnoleg neu o leiaf ei derbyn.

               

4              Cyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru.

                 

5              Yr Athro Emma Renold - Aflonyddu rhywiol ym mherthnasau seibr yr ifanc: ymchwil, polisi a newid

                Trafododd yr Athro Renold dri phrosiect ymchwil yng Nghymru:

                                                        I.            Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu sut y mae bechgyn a merched o dan dair ar ddeg mlwydd oed yn teimlo am dyfu i fyny mewn cymdeithas sy'n gwahaniaethu'n gynyddol ar sail rhyw .

 

http://www.cardiff.ac.uk/news/view/boys-and-girls-speak-out-on-sexism-and-sexual-harassment-27796

 

http://blogs.cardiff.ac.uk/socsi/2014/03/07/research-impact-in-action/

 

                                                     II.            Prosiect Blaenau'r Cymoedd yw'r rhaglen Productive Margins yng Nghymru: Datblygu Dulliau o Ymgysylltu.  Mae aelodau o CISHeW (Dr Eva Elliott, Dr Gareth Thomas), SOCSI (Yr Athro Emma Renold), UPSI (Yr Athro Martin Innes, Eve Exley, Dr Trudy Lowe), a Phrifysgol Aberdeen (Yr Athro Gabrielle Ivinson) wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil ar brofiadau pobl ifanc o ddiogelwch, iechyd/lles, rheoleiddio, a lle ym Merthyr Tudful.

 

http://cishew.co.uk/projects/productive-margins/

 

                                                    III.            Gwneud Perthynas Iach yn Bwysig.

 

http://youngsexualities.org/researcher-database/

 

 

6.                Dr. Sangeet Bhullar - Prif Ganfyddiadau adroddiad Cenhedlaeth 2000: Arferion cyfryngau digidol a'r rhyngrwyd a llythrennedd digidol dros 2000 o ddisgyblion Blwyddyn 9 ledled Cymru.

 

 

Rhai o'r prif ganfyddiadau:

·         Mae darpariaeth technoleg mewn ysgolion ar ei hôl hi ac mae angen iddo wella. Dim ond 44% o blant sy'n meddwl fod gan eu hysgolion dechnoleg dda ar gyfer gwersi.

·         Mae plant sy'n siarad Cymraeg yn dweud eu bod eisiau gweld rhagor o adnoddau ar-lein yn y Gymraeg.

·         Mae diffyg cysylltiad rhwng arferion digidol disgyblion yn y cartref ac yn yr ysgol.

·         Mae angen i ysgolion ailfeddwl sut y maent yn ymgysylltu â disgyblion mewn llythrennedd digidol a diogelwch ar-lein.

·         Mae angen i rieni hefyd fod yn fwy gwybodus yn ddigidol, fel y gallant gefnogi eu plant i ddefnyddio'r Rhyngrwyd yn effeithiol ac yn ddiogel.

·         Mae plant yn greadigol ac yn hyderus wrth ddelio ag agweddau negyddol anochel y Rhyngrwyd, gan ddatblygu ystod o strategaethau i ymdopi â nhw.

·         Mae yna gysylltiad rhwng defnyddio ffôn clyfar a llechen a sgiliau uwch a manteisio ar weithgareddau.

 

http://wisekids.org.uk/wk/new-1st-dec-2014-generation-2000-research-findings/

               

7.                Trafodaeth a chloi gan Jocelyn Davies AC (Cadeirydd).

 

 "Mae pobl ifanc yn aml yn deall mwy am aros yn ddiogel ar y rhyngrwyd na'u rhieni. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes angen cymorth ar bobl ifanc i ddeall y negeseuon y maent yn dod ar eu traws ar-lein a pheryglon rhannu gormod. Mae'n tanlinellu pa mor bwysig yw hi i'n plant a'n pobl ifanc gael addysg gynhwysfawr sy'n briodol i'w hoedran am berthynas iach a pharch. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n orfodol i ysgolion fabwysiadu agwedd ysgol gyfan tuag at addysg perthynas iach."

 

Jocelyn Davies AC